Yn y Gymraeg

Myfyriadau Arfordirol 

 Gan Richard Neale (Erthygl i gylchgrawn Y Naturiaethwr)


 Pryd welsoch chi’r môr diwethaf?

Tan yr Ardd, Rhiw.  Tyddyn yn edrych dros Porth Neigwl.
Fy nghartref ym Mhen Llyn. (Llun o Rhiw.com)
Ar y penwythnos, wrth fynd am dro efo’r teulu?  Ar y ffordd i’ch gwaith?  Neu os da chi’n lwcus, o ffenast y tŷ bore ‘ma?  Un peth sy’n sicr, mi fuasech chi wedi ei sylwi ac wedi ceisio ddarllen ei dymer.  Dyna’r peth efo’r môr: mae hi’n mynnu ein sylw, ac yn ad-dalu’r sylw trwy’n ailfywhau rhywsut.  Daeth hwn yn amlwg i mi blynyddoedd yn ôl pan symudais o fwthyn oedd yn edrych dros tonnau Porth Neigwl i bentref yng nghanol cadernid amgaeedig Eryri.  Yn sydyn dyma fi’n hiraethu am gweld y môr pob dydd – rhywbeth roeddwn i wedi cymryd yn ganiataol tan hynny. 

            Ond mae’r môr wedi dylanwadu ar lawer iawn mwy na ni fel unigolion.  Mae hi wedi creu ni fel genedl.  “Dyrchafa fy llygaid i’r mynyddoedd” medd y salm.  Ond i ni’r Cymry, mae’r môr wedi bod yn llawn mor bwysig na’r mynyddoedd.  O ble ddaeth ein crefydd i’n gwlad?  Beth am dylanwad y môr ar ddiwydiant a thwf aruthrol yn ein economi yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg?  Ac wrth gwrs, y môr sy’n gwneud Cymru’n un o wledydd cyfoethocaf y byd o ran rhyfeddodau byd natur a harddwch naturiol.

Cartref Dylan Thomas, efo Mwche a Phentowyn
ar draws y Taf
            Felly beth am i ni cymryd munud i feddwl am uchafbwyntiau’n arfordir byd-enwog.  Meddyliwch am yr olygfa godidog o draeth Rhosili at Pen Pyrod ym Mhenrhyn Gŵyr; yr olygfa mwy cynnil dros aber y Taf at fwynder Sir Gâr o dŷ Dylan Thomas yn Talacharn; pyrth cysgodol Penfro, megis Solfach, Porth Clais a Phorth Gain; tywod euraidd Mwnt yng Ngheredigion; traethau a rhostiroedd bendigedig Pen Llŷn fel Porth Dinllaen a Mynydd Mawr; gogoniant glennydd y Fenai, lle mae coed derw yn gogwyddo’u brigau i gyffwrdd a’r heli ac unigrwydd ysblennydd rhannau o ogledd Môn.

            Y peth sy’n cysylltu’r llefydd enwog yma ydi fod rhannau helaeth ohonynt yng ngofal y mudiad rydw i wedi gweithio i drwy’n holl yrfa, sef yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.  Ac am y tair flynedd nesaf rydw i wedi cymryd secondiad o’n gwaith fel Rheolwr Eiddo Eryri a Llŷn i arwain prosiect sy’n ceisio codi ymwybyddiaeth o’n trysorau arfordirol ac i wella’r profiad o’u ymweld.

            Efallai fod o’n synnu rhai i glywed fod gymaint a 20% - un milltir o bob pump, sef 200 milltir i gyd – o’n arfordir yng gofal yr elusen hwn.  Yn lwcus i ni fel cenedl, roedd rhai o sylfaenwyr y mudiad cadwraeth – fel John Ruskin, Octavia Hill a’r cymro Syr Clough Williams-Ellis efo cysylltiadau clos â arfordir Cymru.  Roedd dau o sylfaenwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gyfeillion â Fanny Talbot o Tŷ’n Ffynnon, Y Bermo, a mae’n debyg mae hyn ac ysbrydolodd hi i roddi Dinas Oleu – y bryn creigiog sy’n tra-arglwyddiaethu dros y dref – ym mis Mawrth 1895 i’r mudiad, oedd wedi dod i fodolaeth tua mis yn gynt.  Dywedodd Mrs Talbot mewn llythyr i’r tri sylfaenydd:

Oedd Fanny Talbot wedi rhagweld dyfodol y Bermo o'i chartref
Ty'n Ffynnon (yn y pellter) pan rhoddod hi Dinas Oleu i'r
Ymddiriedolaeth Genedlaethol?
“I have long wanted to secure for the public for ever the enjoyment of Dinas Oleu, but wish to put it to the custody of some society that will never vulgarise it or prevent wild nature from having its way…It appears that your association has been born in the nick of time”.

Mae’n debyg fod staff Cymreig llawer i fudiad sydd efo’u pencadlys dros y ffin weithiau’n gorfod atgoffa eu cydweithwyr fod yma iaith, diwylliant a strwythurau politicaidd gwahanol yma.  Ac wrth gwrs, da ni yn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol hefyd yn gallu atgoffa nhw fod yma dechreuodd ein gwaith o warchod ein cefn gwlad!

            Wrth feddwl am y bygythiadau lu sy’n wynebu ein arfordir – a’r holl lefydd sydd eisoes wedi cael ei difetha o gwmpas ein glennydd – ddylwn ymfalchïo yn y ffaith fod gymaint ohono wedi ei achub i’r genedl ac yn cael ei warchod gan mudiadau cadwraethol.

Un o’r prif atyniadau am gymryd y secondiad yma oedd i cael cyfle i fynd tu hwnt i’n milltir sgwâr a dod yn fwy gyfarwydd â mwy o’n arfordir.  Yn hyn o beth, dydw i ddim wedi cael fy siomi!   Rydw i wedi cael fy’n synnu i ddarganfod faint o waith gwych i warchod yr amgylchedd – a helpu pobl ei fwynhau – mae fy nghydweithwyr yn gwneud o gwmpas yr arfordir.  Nid oes lle i mi fanylu yn yr erthygl hwn, ond hoffwn rhannu ddau brofiad efo chi.  

Fferm laeth draddodiadol, Lord's Park yn ganol mwynder
Sir Gar
Roedd darganfod tri meddiant ar arfordir Sir Gaerfyrddin oedd “heb arni staen na chraith” chwedl R Williams Parry.  Efo cyfarwyddiadau a hanesion gan Wyn Davies, y Warden sydd hefyd yn gofalu am y gwartheg parc gwyn yn Ninefwr, daeth y llefydd yma – megis Morfa Bychan Ragwen a Mwche a Phen Tywyn yn fyw i mi.  Ac i ddiweddu diwrnod perffaith, cael dilyn y llwybr sy’n cael ei gynnal a chadw gan Wyn ai griw at yr olygfa bendigedig ar Wharley Point (oes enw Cymraeg?) a chael cip ar fferm laeth traddodiadol Lord’s Park, sydd wedi cadw ei chymeriad yn rhyfeddol. 

A’r ail atgof – un nes at adra – oedd gweld y gwaith gwych sydd ar y gweill o adfer dwy dyddyn traddodiadol ym Mhenrhyn Llŷn, Tan yr Ardd a Fron Deg, Rhiw, a chlywed am y cynlluniau cyffrous o gydweithio efo’r gymuned i defnyddio nhw i ddehongli oes y tyddynnwr dan banner Partneriaeth Tirlun Llŷn.

            Y tro nesa y welwch chi’r môr – pa bynnag pryd fydd hynny -  cofiwch diolch am y ffaith fod gymaint o’n arfordir wedi ei warchod, a fod yna pobl wrthi’n gofalu amdano.

Dangoswyd gyda diolch cylchgrawn Y Naturiaethwr
                                                                                        

Canolfan Ragoriaeth Twristiaeth Arfordirol Aberdaron

Sut mae dylunio adeilad newydd i bentref mor hardd?
© Turtle Photograph
"Mae Duw yn y manylion”

Dyna ddywedodd y pensaer o Aberystwyth, Iwan Thomas, mewn cyfarfod y bûm i ynddo’n ddiweddar. Roedden ni’n ystyried brasluniau ar gyfer adeilad newydd a sydd i’w adeiladu yng nghalon pentref darluniadol Aberdaron ar Benrhyn Llŷn.

Fe fydd y prosiect yma’n un o’r datblygiadau mwyaf cyffrous ar arfordir Cymru yn y flwyddyn neu ddwy i ddod. Bydd yn golygu creu adeilad ymwelwyr newydd yng nghanol y clwstwr blith draphlith o dai gwyngalchog sy’n closio o gwmpas eglwys glan môr ganoloesol hardd.

Fe drafodwyd yr angen am adeilad i ddehongli treftadaeth naturiol a diwylliannol gyfoethog yr ardal gan y gymuned lawer gwaith. Ond prynu maes parcio’r pentref gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol – ynghyd â chyn westy Henfaes – oedd y catalydd a wnaeth y prosiect yn bosibilrwydd. Yna, gyda llwyddiant bid i Groeso Cymru am grant ERDF ar gyfer Canolfan Ragoriaeth Twristiaeth Arfordirol, fe drodd y posibilrwydd hwnnw’n realaeth.

Pan ystyriwch chi mai hwn fydd yr unig adeilad newydd i’w adeiladu yng nghalon un o’n pentrefi harddaf am genhedlaeth neu ddwy, yna fe sylweddolwch fod y drafodaeth â’r pensaer wedi bod yn hollbwysig.

Roedd y drafodaeth yn fewnwelediad i’r math o gwestiynau y bydd yn rhaid i benseiri ymrafael â nhw wrth ddylunio ar gyfer safle sensitif: gallai adeilad cyfoes amharu ar harmoni gweledol y pentref; gallai adeilad cynhenid ymddangos yn bastiche merfaidd; gallai adeilad hollol addas fod yn anodd ei addasu pe byddai’r pwrpas yn newid; gallai adeilad a allai wrthsefyll y dyfodol ac a allai ymdopi ag unrhyw newid, droi’n ‘focs’ disylw…

Mae cyfoeth o natur a threftadaeth 
yn ardal Aberdaron.  Blwyddyn nesa,
mi fydd adnodd i helpu pobl 
dysgu amdano.

Yn ffodus, gallodd Iwan Thomas fanteisio ar brofiad cyfunol grŵp o’r penseiri amlycaf yn y Deyrnas Unedig, yn ystod ymweliad ymgynghorol ddiweddar panel penseiri’r Ymddiriedolaeth. Canlyniad y cyfarfod hwnnw oedd y sylweddoliad y dylid seilio’r man cychwyn ar gyfer adeilad newydd ar werthfawrogiad ehangach o’r hyn sy’n gwneud Aberdaron yn hardd yn awr.

Mae edrych ar y pentref drwy lygaid pensaer yn ddatguddiad. Rydych yn sylwi fod bylchau sianelog rhwng adeiladau’n gwahodd fforiad; a’r ffordd y mae cipolygon drwy fynedfeydd i iardiau bychan sydd wedi eu hamgáu â waliau gwyngalchog yn ychwanegu at eich chwilfrydedd; a’r ffordd y mae adeiladau domestig ac adeiladau gweithio’n rhyngweithio â’i gilydd i greu amrywiaeth sy’n ddymunol. Yn fwy na dim, rydych yn dechrau gwerthfawrogi fod y bylchau rhwng adeiladau - a’r ffordd y maen nhw’n rhyngweithio â’i gilydd - mor bwysig â’r adeiladau eu hunain.

Ac yntau ar dân â’r arsylwadau hyn, fe grynhodd Iwan y sefyllfa’n daclus.

“Mae’n rhaid i ni weithio efo graen y pentref… dim ond drwy ansawdd y manylion a chyfoeth ei ddefnyddiau y gwnaiff yr adeilad lwyddo.”

Gyda mantais yr agwedd yma, mae Iwan wedi dechrau braslunio rhai dyluniadau petrus a fydd yn cael eu rhannu â’r gymuned a’r cynllunwyr yn yr wythnosau i ddod. fod yn gyfryngol yng nghysyniad yr adeilad yma, ac o fod ag angerdd tuag at ei bwrpas a dymuniad bod y pentref arbennig hwn yn arddel ei gymeriad unigryw, roedd yn rhyddhad enfawr i mi ein bod wedi dod o hyd i bensaer sy’n barod i weithio mewn ffordd mor sensitif.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dod draw i weld y brasluniau – ac i gael cyfle i roi eich sylwadau arnyn nhw – mae yna ddiwrnod agored yn Henfaes, Aberdaron ar 13 Gorffennaf.


Fe saiff Henfaes yn nghanol y pentref.  Mae'r adeilad newydd am ei leoli yn y maes
parcio y tu-ol i'r adeilad hon.


______________________________________________________________________________




Plant Pen Llŷn yn Cyfarfod eu Cyndadau


Dadlwytho nwyddau o long lannau ym Mhorth Ferin, ar arfordir gogledd Llŷn.  Sylwch ar y teclyn codi rhaff a ddefnyddiwyd i godi’r cargo ar y pentir


Am ganrifoedd, morio oedd bara menyn ein cymunedau arfordirol yng Nghymru.  Cawsai nwyddau moethus ac arferol o bob math, yn rhai cyfreithlon ac anghyfreithlon, eu cludo i gildraethau, cilfachau a thraethau ledled ein harfordir garw.

Nid yw’n gyd-ddigwyddiad bod y gair "Porth", sydd i’w weld mor gyffredin ledled ein glannau, hefyd yn air sy’n cael ei ddefnyddio i gyfeirio at fynedfa.

Ond mae bron y cyfan o’r cildraethau hyn – a oedd yn atseinio gyda sŵn llwytho a dadlwytho cargo tan yn ddiweddar – yn dawel erbyn hyn, ac eithrio sŵn y tonnau, adar y môr ac ambell gerddwr neu nofiwr. 

Felly, ymhle mae disgynyddion y pysgotwyr, y llongwyr a’r smyglwyr hyn o’r dyddiau a fu? 

Wrth gwrs, mae nifer ohonyn nhw’n dal yma, yn byw bywydau gwahanol iawn i’w cyndeidiau, ar ffermydd ac mewn pentrefi ar hyd ein harfordir.

Oni fyddai’n dda petai pobl ifanc y cymunedau hyn yn cael cipolwg ar fywydau eu cyndeidiau? Wel, dyna’n union a ddigwyddodd y diwrnod o’r blaen ym Mhorthor, sef y fan a fedyddiwyd yn 'Whistling Sands' gan ymwelwyr. 

Cafodd grŵp o blant ysgol gynradd o bentref cyfagos Rhoshirwaun ddiwrnod y maen nhw’n debyg o’i gofio am gryn amser.  Eu harweinydd ar gyfer y diwrnod oedd Ceidwad Cymunedol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym Mhen Llŷn, Robert Parkinson. 


Ystafell ddosbarth ar lan y môr: y Ceidwad Cymunedol, Robert Parkinson, yn herio disgyblion Rhoshirwaun i ddarganfod cliwiau am eu treftadaeth forol
 Hyfforddodd Robert fel athro cyn ymuno â thîm yr Ymddiriedolaeth yn Llŷn, ac mae nawr yn treulio ei amser yn gweithio gyda grwpiau cymunedol ac ysgolion o amgylch y penrhyn.  Mae ei swydd yn cael ei hariannu’n rhannol gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri dan Bartneriaeth Tirwedd Llŷn, sy’n ceisio dod â threftadaeth unigryw'r ardal hon yn fyw er budd cymunedau ac ymwelwyr.

Dyma Robert, sy’n hanu o bentref Llaniestyn ym Mhen Llŷn, yn adrodd yr hanes:

"Dysgodd y plant am y math o nwyddau oedd yn cael eu mewnforio i’r ardal yn y canrifoedd a fu, fel gwin, tybaco a brandi"

"Fe wnes i eu hannog nhw i ddyfalu beth oedd yr eitemau dirgel drwy gyffwrdd â nhw, ynghyd â chynnig cliw aromatig.  Fe wnaethon ni ddefnyddio "ciwbiau aroma", sydd hefyd yn cael eu defnyddio yng nghanolfan ymwelwyr Yorvik yng Nghaerefrog.  Roedd y rhai ag arogl “penwaig" a’r "farchnad bysgod" yn boblogaidd iawn!"

Drwy ddefnyddio eu holl synhwyrau, llwyddodd Robert i roi cipolwg ar y gorffennol i’r bobl ifanc hyn o Lŷn; profiad a fydd yn sicrhau y bydd treftadaeth forol yr ardal yn parhau am genedlaethau i ddod.

No comments:

Post a Comment